P-05-872 - Dylid diogelu cyllid ysgolion neu gyfaddef bod y gwasanaeth a ddarperir yn gwanhau
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan James Wilkinson, ar ôl casglu cyfanswm o 5,784 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu
cyllid ysgolion ac, os na all wneud hynny, i gydnabod effaith
toriadau ar ddarpariaeth addysgol, yn enwedig ar gyfer y dysgwyr
sydd fwyaf agored i niwed.
Wrth i gyllidebau cynghorau barhau i gael eu cwtogi, ac wrth i'r
toriadau hyn gael eu trosglwyddo i ysgolion, gofynnir i gyrff
llywodraethu wneud penderfyniadau amhosibl ynghylch pa wasanaethau
addysgol hanfodol y dylai ein hysgolion gael gwared arnynt.
Bydd hyn yn golygu llai o ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag
anghenion dysgu ychwanegol, llai o gefnogaeth i ddysgwyr sy'n
agored i niwed, llai o ddewis o ran y cwricwlwm, adnoddau
dysgu annigonol ac adeiladau adfeiliedig.
Nid dyma'r sylfeini y gall ysgolion adeiladu arnynt i greu a
gweithredu cwricwlwm addysgol o'r radd flaenaf.
Gwybodaeth ychwanegol:
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gorllewin Clwyd
· Gogledd Cymru